Arweinydd cyngor mwya Cymru'n ennill pleidlais o hyder
- Cyhoeddwyd

Goroesi: Phil Bale
Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd Phil Bale wedi ennill pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth.
Y gwrthbleidiau oedd wedi galw am y bleidlais ar ôl i Mr Bale gael ei orfodi i wneud newidiadau munud olaf i'w gyllideb yr wythnos diwetha er mwyn sicrhau mwyafrif.
Roedd Llafur wedi rhybuddio y byddai cynghorwyr Llafur yn wynebu camau disgyblu pe baen nhw'n pledleisio yn erbyn Mr Bale.
Roedd angen i saith o gynghorwyr Llafur "newid ochr" er mwyn i'r gwrthbleidiau ennill y bleidlais.
Yn falch
Dywedodd Mr Bale ei fod yn falch o'r hyn yr oedd wedi ei gyflawni. "Dwi'n credu yn y brifddinas, ei phobl, ei busnesau a'i dyfodol," meddai.
Y cynghorydd Ceidwadol Craig Williams gyflwynodd y cynnig gerbron y cyfarfod.
"Mae effaith niweidiol wedi bod ar y ddinas," meddai, "oherwydd grŵp Llafur rhanedig.
"Rhaid iddyn nhw uno o gwmpas eu harweinydd neu ddod o hyd i un newydd."
Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Judith Woodman wedi dweud bod proses y gyllideb "yn fethiant llwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2015

- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2015
