Gŵyl Cyfryngau Celtaidd: Enwebiadau

  • Cyhoeddwyd
Gwyl Cyfryngau CeltaiddFfynhonnell y llun, CMF2015

Mae llawer o gynnyrch o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd gafodd ei chyhoeddi fore Gwener, 6 Mawrth.

Yn eu plith mae 'ap' Cymru Fyw yn y categori 'Ap Gorau', BBC Radio Cymru fel yr 'Orsaf Radio Orau' a Dei Tomos yng nghategori'r 'Personoliaeth Radio Gorau'.

Mae llu o raglenni teledu a radio Cymraeg ymysg y 118 o enwebiadau yn yr 20 categori.

Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal yn Inverness yn Yr Alban o 22-24 Ebrill.

Yr enwebiadau Cymraeg yw:

  • I Grombil Cyfandir Pell (S4C/Ie Ie Productions) - Celfyddydau;

  • Dim Byd (S4C/Cwmni Da) - Adloniant;

  • Adam Price a Streic y Glowyr (S4C/Tinopolis) - Cyfres ffeithiol;

  • Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (S4C/Telesgop) }

  • Mered (S4C/Cwmni Da) } Rhaglen unigol ffeithiol;

  • O'r Galon: Yr Hardys - Un Dydd Ar Y Tro (S4C/Rondo) }

  • Y Syrcas (Ffati Ffilms) - Drama hir;

  • Prosiect iBeacons Oriel Plas Glyn-y-Weddw (Cwmni Da) - Gwobr Keiran Hegarty am Ddyfeisgarwch;

  • BBC Cymru Fyw - App Gorau;

  • Dei Tomos (BBC Radio Cymru) - Personoliaeth/Cyflwynydd Radio;

  • Ar Y Marc/Pêl-droed (BBC Radio Cymru) - Rhaglen Chwaraeon Radio;

  • C2 Goreuon Y Byd O'r Bae (BBC Radio Cymru) - Rhaglen Gerddoriaeth Radio;

  • BBC Radio Cymru - Gorsaf Radio'r Flwyddyn.

Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o enwebiadau, dolen allanol.