Taro gan fws: Menyw wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae menyw 75 oed wedi marw wedi iddi gael ei tharo gan fws ym Mhenfro fore Sadwrn.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Bont Llyn y Felin.
Mae dyn 54 oed wedi cael ei arestio.
Bu'r ffordd ynghau am gyfnod wrth i swyddogion ymchwilio.
Gall unrhyw â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.