Dynes yn gwadu ceisio llofruddio plant
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi gwadu ceisio llofruddio dau o blant yng Nghasnewydd.
Mae Sadie Jenkins, 27, wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio babi 16 mis oed a phlentyn saith oed.
Fe wnaeth Ms Jenkins, sydd heb gartref sefydlog, wynebu'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd, ar ôl cael ei harestio ym mis Mai'r llynedd.
Cafodd ei chadw yn y ddalfa tan fis Ebrill.