Protest yn erbyn ad-drefnu 6ed dosbarth yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Daeth tua 300 o brotestwyr i Neuadd y Sir
Mae rhieni a disgyblion yn Sir Benfro yn cynnal protest yn erbyn newidiadau arfaethedig i addysg chweched dosbarth y sir.
Mae'r grŵp gweithredol, 'Achubwch Ein Chweched Dosbarth' wedi dweud y gallai disodli addysg ôl-16 gyda chanolfan chweched dosbarth mewn adeilad penodol ar safle Coleg Sir Benfro, Hwlffordd, effeithio ar ddyfodol y disgyblion.
Daeth tua 300 i Neuadd y Sir yn Hwlffordd fore Mawrth ar gyfer cyfarfod llawn o'r cyngor i drafod cynigion newydd.
Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo cynllunio ad-drefnu ar gyfer addysg ôl-16 yng nghanolbarth a gogledd y sir ar 29 Ionawr.
Ond cafodd y cyfarfod arbennig ddydd Mawrth ei gynnal ar ôl cais swyddogol gan 15 o gynghorwyr.
Maen nhw'n galw am roi'r gorau i'r argymhellion presennol.
Byddant yn cynnig gwelliant i'r argymhellion yn dweud y dylid ymchwilio i'r posibilrwydd o gadw addysg chweched dosbarth yn ysgolion Dewi Sant (Tyddewi), Bro Gwaun (Abergwaun) a Sir Thomas Picton (Hwlffordd), a chynnal ymgynghoriad pellach.

Mae cynghorwyr yn trafod canoli addysg chweched dosbarth y sir


Hon yw'r drydedd brotest eleni