Ymosodiad Tredegar: Cyhuddo dau ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo yn dilyn ymosodiad difrifol ble cafodd dyn 31 oed ei drywanu yn Nhredegar ddydd Gwener.
Mae'r ddau ddyn lleol 20 a 21 oed wedi cael eu cyhuddo o glwyfo bwriadol a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r dyn 20 oed hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn 31 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Fe fydd y dynion yn aros yn y ddalfa ac yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.