Ydych chi'n Siôr o'ch ffeithiau?
- Cyhoeddwyd

Sant Siôr yn fewnfudwr?
Mae'r Saeson heddiw yn dathlu diwrnod eu nawddsant - Sant Siôr, felly mae Cymru Fyw wedi mynd i chwilio am ambell i ffaith ryfeddol ac anarferol am ein cymdogion dros Glawdd Offa.
Doedd Sant Siôr ddim yn Sais. Erbyn hyn, y grêd yw fod e wedi'i eni yn Lod, Israel. Mae Sant Siôr hefyd yn nawddsant Brasil, Catalwnia, Ethiopia, Georgia, a Portiwgal.
Caerfaddon yw'r unig ddinas yn Lloegr sydd ar restr Ddinas Treftadaeth Byd UNESCO.
Yn 1894, roedd 'The Times' yn rhagweld y byddai Llundain o dan naw troedfedd o wrtaith ceffyl erbyn 1950.

Llundain yn 1950
Y dyn olaf i fod berchen ar rif 10 Downing Street cyn i Brif Weinidogion ddechrau byw yna oedd gŵr o'r enw Mr Chicken.
Am bron i 300 mlynedd (rhwng 1066 a 1362) Ffrangeg oedd iaith swyddogol Lloegr.
Dim ond unwaith erioed mae camel wedi cael ei ladd gan fellten yn Lloegr, hyd y gwyddon ni... cafodd y digwyddiad anffodus ei gofnodi ym Mharc Saffari Knowsley yn y West Midlands yn 1997.

Dim ond y Saeson fyddai'n rhuthro i lawr bryn ar ôl tamed o gaws!
Mae'n debyg bod yr arferiad o rowlio darn o gaws i lawr Cooper's Hill yn Sir Gaerloyw wedi bod yn draddodiad ers 1826. Erbyn hyn mae pobl o bob cwr o'r byd yn ymrafael gyda'r Saeson am y cosyn o Double Gloucester. Ond y cwestiwn mawr ydi pwy gafodd y syniad hurt yn y lle cynta'?
Nid y Ffrancwyr oedd y cyntaf i gynhyrchu siampên yn 1662, ond Sais o'r enw Christopher Merret. Fe wnaeth Merret hefyd ddyfeisio gwydr cryf sy'n angenrheidiol i ddelio efo'r gwasgedd o gynhyrchu'r bybli!

Does neb erioed wedi bod yn sicr beth yw ŷd na llêd yr ŵyl hon!
Ar gyfartaledd mae gan bobl yn ne Lloegr draed mwy na phobl yng ngogledd Lloegr.
Cafodd y sŵ cyhoeddus cyntaf yn y byd ei agor yn Llundain yn 1829.
Mae Gŵyl y Straw Bear yn cael ei chynnal yn Whittlesey, Sir Caergrawnt pob mis Ionawr. Roedd hi'n arferiad i was fferm lleol gael ei orchuddio mewn gwellt ac yna dawnsio yn y pentre' er mwyn cael rhoddion o fwyd a diod i'w rhannu rhwng gweithwyr fferm eraill. Syniad arall gwallgof? Gwellt peidio gofyn!
Yn 1811 Mary oedd enw bedydd chwarter y merched a oedd yn byw yn Lloegr.