Rhagor o danau gwair dros nos
- Cyhoeddwyd

Roedd 'na dân sylweddol uwchben y Gaer yng Nghasnewydd
Dros nos, mae diffoddwyr wedi bod yn parhau i ddelio â nifer o danau gwair ledled Cymru - nifer o'r rhai hynny wedi eu cynnau'n fwriadol.
Ym Mlaenau Ffestiniog, cafodd criwiau eu galw i bedwar tân.
Bu diffoddwyr o wasanaeth y canolbarth a'r gorllewin yn delio â thanau ar Fynydd Cilfái, Abertawe ac ar fynydd Cefn Drum rhwng Rhydaman a Phontarddulais.
Yn y de, fe ledodd tân dros chwe hectar uwch y Gaer yng Nghasnewydd nos Lun.
Fe lwyddodd diffoddwyr i reoli tân anferth ar fynydd Machen, Caerffili erbyn hanner nos. Mae ymchwilwyr yno fore Mawrth yn asesu beth i'w wneud nesaf.

Mae'r ymchwilio'n parhau ar fynydd Machen ddydd Mawrth