Gohirio cwest Carwyn Scott Howell fu farw yn sgïo

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Scott-HowellFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carwyn, o Dalybont-ar-Wysg, ar wyliau gyda'i deulu yn yr Alpau Ffrengig pan fu farw

Fe wnaeth bachgen o Bowys, fu farw ar wyliau sgïo yn Ffrainc, ddisgyn o uchder oedd yn "ddigon i achosi ei farwolaeth", clywodd cwest ddydd Iau.

Clywodd y cwest yng Nghasnewydd bod corff Carwyn Rhys Scott Howell, oedd yn saith oed, wedi ei ddarganfod ar lethr yn Flaine.

Fe wnaeth y Dirprwy Grwner, Wendy James, agor a gohirio'r cwest yn Llys Crwner Gwent.

Roedd Carwyn, o Dalybont-ar-Wysg, ar wyliau gyda'i deulu yn yr Alpau Ffrengig pan fu farw.

Clywodd y cwest bod Carwyn wedi cael ei wahanu oddi wrth ei deulu cyn iddo farw.

Dywedodd y patholegydd Geraint Evans, wnaeth archwilio corff y bachgen, bod ei anafiadau yn "cyd-fynd â disgyn o uchder ac yn ddigon i achosi ei farwolaeth".

Mae'r awdurdodau yn Ffrainc wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad, a chafodd y cwest ei ohirio tan fis Mehefin.