Cyhuddo diffoddwr tân o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 43 oed o Brestatyn wedi ymddangos gerbron ynadon y dref i wynebu pum cyhuddiad o ddynladdiad.
Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Jay Brenton Liptrot yn ymwneud â marwolaeth pump o bobl mewn tŷ oedd yn berchen iddo ym Mhrestatyn.
Roedd Mr Liptrot yn gweithio fel diffoddwr tân ar y pryd, ac roedd ymysg y cyntaf i gyrraedd y tŷ pan ddigwyddodd y tân.
Ni chafwyd unrhyw fanylion yn ystod y gwrandawiad ynglŷn â'r bobl fu farw.
Bydd Mr Liptrot, o Ffordd Gronant, Prestatyn, yn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, 1 Mai.
Ni roddodd Mr Liptrot ble yn ystod y gwrandawiad byr, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.