Llofruddiaeth Tonypandy: Cyhuddo dynes
- Cyhoeddwyd

Bu farw Wayne Letherby yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant
Mae dynes 25 oed wedi'i chyhuddo o lofruddio dyn yn Nhonypandy.
Bu farw Wayne Letherby, 42 oed, ar 17 Ebrill yn dilyn ymosodiad ar Stryd De Winton, yn Nhonypandy.
Mae dau ddyn eisoes wedi ymddangos gerbron y llys wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd Jamie Leyshon, 26 oed Donypandy, a Dean Doggett, 26 oed o Benygraig, eu cadw yn y ddalfa ddydd Iau.
Bydd y ddynes yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pontypridd ddydd Sadwrn.