Ffordd osgoi yn ailagor wedi damwain
- Cyhoeddwyd

Mae ffordd osgoi ym Mhowys wedi ailagor yn dilyn damwain.
Digwyddodd y ddamwain ddydd Sadwrn ar ffordd osgoi Ystradgynlais, yr A4067, rhwng Ffordd Aberhonddu a'r droiad am Y Gurnos.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad a bu'n rhaid i geir gael eu dargyfeirio ar hyd y B4599 am gyfnod.