Dreigiau 10-29 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Aeth y Scarlets ar y blaen wedi dim ond saith munud, diolch i gic gosb lwyddiannus gan Rhys Priestland.
Ni pharhaodd y fantais honno'n hir wrth i Tyler Morgan sgorio cais i'r Dreigiau.
Ychwanegodd Dorian Jones at fantais y Dreigiau gyda chic gosb.
Cyn diwedd yr hanner sgoriodd Ken Owens, ac yna Scott Williams, ddau gais i'r Scarlets o fewn ychydig funudau.
Cychwynnodd yr ail hanner yn union yr un fodd ag y daeth yr hanner cyntaf i ben, gyda chais i'r Scarlets, a Liam Williams yn sgorio'r pwyntiau tro 'ma.
Sgoriodd Harry Robinson bedwerydd cais i'r Scarlets, gan sicrhau buddugoliaeth.