Dathlu llwyddiant merched Asiaidd
- Cyhoeddwyd

Enillwyr Gwobrau Cyrhaeddiad Merched Asiaidd Cymru, gyda chyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan
Cafodd llwyddiant merched Asiaidd sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru ei ddathlu mewn digwyddiad yng Nghaerdydd.
Daeth tua 350 o bobl i seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Merched Asiaidd Cymru yn Neuadd y Ddinas nos Sadwrn.
Roedd 29 o ferched wedi eu henwebu mewn wyth categori gwahanol, gyda phanel yn penderfynu ar yr enillwyr.
Roedd y categorïau yn cynnwys busnes, diwylliant a'r celfyddydau, cymdeithasol a dyngarol, a mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched.

Busnes: Yasmin Sarwar, cyfarwyddwr gweithredol a chyd-sylfaenydd Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd. Llynedd mi wnaeth 95% o fyfyrwyr y coleg dderbyn graddau A* ac A yn eu Lefel-A

Gwobr Cyrhaeddiad yr Ifanc: Azizah Khan, o Gaerdydd, ble mae hi a'i chwaer wedi dod â 50 o ferched at ei gilydd er mwyn creu rhaglen ddogfen o'r enw Sixty Years of Life in Butetown

Diwylliant a'r celfyddydau: Hiral Narbad Shah sy'n ymweld ag ysgolion cynradd ar draws Cymru, ac sy'n cynnal dosbarthiadau i ferched, er mwyn hybu dawns ac annog byw yn iach

Cymdeithasol a dyngarol: (Cyd-enillydd) Basma Ihbasheh, cadeirydd grŵp cymunedol yn Y Barri, y Rainbow Women’s Group, am ei gwaith yn sicrhau arian ar gyfer y grŵp

Cymdeithasol a dyngarol: (Cyd-enillydd) Sonia Khoury, meddyg o Syria sydd bellach yn byw yn Llandudno, sydd wedi datblygu prosiect er mwyn sicrhau bod lleisiau merched sy'n geiswyr lloches yn cael eu clywed yn eu cymunedau

Trais yn erbyn merched: Jasmin Akhtar Ahmed, sy'n cefnogi dioddefwyr trais yn y cartref, trais wedi'i seilio ar barch teulol a phriodasau gorfodol

Rheoli ac arwain: Usha Ladwa-Thomas, swyddog datblygu yn adran amgylchedd a datblygiad cynaliwadwy Llywodraeth Cymru

Gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth: Dr Alka Ahuja, athro ymweliadol ym Mhrifysgol De Cymru, sydd hefyd yn seiciatrydd ymgynghorol ar gyfer plant gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Enillwyr eraill:
Datblygiad personol: Tamasree Mukhopadhyay, rheolwr siop gyda'r elusen Kidney Research UK. Dechreuodd wirfoddoli gyda'r mudiad Missionaries of Charity, mudiad sydd wedi'i ysbrydoli gan waith y Fam Teresa, yn 15 oed.
Gwobr Cyrhaeddiad Oes: Dr Jasbir Mahapatra, sy'n rhedeg canolfan gofal meddygol San Ffraid yng Nghasnewydd. Mae Dr Mahapatra a'i gŵr wedi buddsoddi eu harian eu hunain i ehangu'r feddygfa, gan obeithio ei datblygu'n 'bentref iechyd' yn y dyfodol.
Gwobr Cyrhaeddiad Oes: Poranee James, cadeirydd Cymdeithas Diwylliant Thai yng Nghymru, sy'n trefnu digwyddiadau i arddangos a hybu diwylliant, dillad a bwyd o Wlad Thai.
Gwobr Cyrhaeddiad Oes: Wai Fong Lee, sylfaenydd a chyfarwyddwr Canolfan Cydweithredol y Gymuned Tsieineaidd yn Abertawe, sy'n ceisio mynd i'r afael â phroblemau, megis problemau ieithyddol a chymdeithasol, sy'n wynebu'r gymuned Tsieineaidd. Derbyniodd MBE am ei chyfraniad i'r berthynas rhwng cymunedau Cymreig a Tsieineaidd.