Sicrwydd am ddyfodol sinema'r Scala?
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr sinema gymunedol, fu yng nghanol anghydfod ynglŷn â'i dyfodol, wedi sicrhau trigolion y bydd yn ailagor cyn bo hir.
Caeodd y Scala ym Mhrestatyn ym mis Ionawr wedi i'r perchnogion, Cyngor Sir Ddinbych, dorri'r arian oedd yn cael ei roi i'r ganolfan.
Mae'r rheolwyr newydd, cwmni Aurora Leisure, yn dweud y bydd "yn ailagor cyn gynted â phosib".
Dywedodd Robert Arthur, perchennog Aurora, y byddai'r ganolfan yn dangos ystod o ffilmiau, gan gynnwys ffilmiau i blant, teuluoedd a ffilmiau arswyd min nos.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal cyn i'r ganolfan ailagor ac mae'r cwmni'n gobeithio y bydd y Scala'n datblygu i fod yn fan cyfarfod cymunedol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2015
