Pryder am ddyfodol swyddi East Pit
Mae pryder am 70 o swyddi yn Nyffryn Aman ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod hi eisiau rhagor o amser i ystyried cais i gloddio am fwy o lo yn East Pit.
Roedd cwmni Celtic Energy sy' berchen y safle wedi ysgrifennu at y Llywodraeth a'r cyngor yn rhybuddio y byddai oedi yn rhoi swyddi dan fygythiad.
Bydd Cyngor Castell-Nedd Port Talbot yn pleidleisio ar y cynlluniau ddydd Mawrth. Owain Evans sydd wedi bod yn dilyn y stori ar ran Newyddion 9.