Llafur yn addo gweithredu ar fewnfudo
- Cyhoeddwyd

Hwn yw ail ymweld Ed Miliband a Chymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol
Pwnc dadleuol mewnfudo gafodd prif sylw Ed Miliband, arweinydd y blaid Lafur oedd yn ymgyrchu yng Nghymru ddydd Mawrth.
Yn siarad ym Mro Morgannwg, dywedodd y byddant yn credu 1,000 o staff ychwanegol i warchod ffiniau Prydain ac i rwystro troseddwyr difrifol rhag cael mynediad i'r DU.
Dywedodd mai bwriad ei blaid yw gweithredu o fewn 100 diwrnod i gael eu hethol.
Ond mae UKIP wedi cyhuddo Llafur o ragrith, gan ddweud mai dim ond y nhw ddylai'r etholwyr ymddiried ynddo ar gwestiwn mewnfudo.
Dywedodd ddirprwy gadeirydd UKIP Suzanne Evans nad oedd hi'n credu bod Llafur o ddifrif ynglŷn â mewnfudo.
"Y nhw wnaeth agor y drysau i filiynau o fewnfudwr yn 1998 a hynny fel polisi bwriadol," meddai mewn cynhadledd i'r wasg.
Yn ôl y Ceidwadwyr, bydden nhw'n rheoli mewnfudo drwy adeiladau system sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl Prydain.
Dywedodd llefarydd y byddant yn rheoli mewnfudo o'r Undeb Ewropeaidd drwy ddiwygio rheolau lles a byddant hefyd yn lleihau mewnfudo o du allan i'r Deyrnas Unedig.
Maniffesto Caerdydd
Yn y cyfamser, fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol lansio maniffesto penodol ar gyfer Caerdydd ddydd Mawrth.
Roedd disgwyl i'r maniffesto gynnwys polisïau yn rhoi pwerau ehangach i'r ddinas, gan gynnwys pwerau i fuddsoddi er mwyn cryfhau'r economi.
Roedd Plaid Cymru yn canolbwyntio ar iechyd, gan addo ei gwneud yn haws i gleifion gael gafael ar feddyginiaethau newydd.
Maen nhw am sefydlu cronfa ar gyfer triniaeth a chyffuriau, gyda phanel cenedlaethol yn penderfynu ar geisiadau.