Cipio Adran 1 a'r Plât?
Fe fydd hi'n achlysur arbennig i glwb o lannau afon Teifi ar ddydd Sul yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Plât Swalec - pan fyddan nhw'n chwarae Ystrad Rhondda. Mae'r clwb hefyd yn gobeithio cipio Adran 1 y Gorllewin.
Fe fu'n gohebydd ni, Aled Scourfield yn holi Cyfarwyddwr Rygbi Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, Marc Lloyd.