Pryder am swyddi yn Sir Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC yn deall bod cwmni torri coed yn Sir y Fflint sy'n cyflogi tua 80 o bobl wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Dyw rheolwyr cwmni Mancoed, sydd a'i bencadlys yn Nercwys, ger Yr Wyddgrug, heb ymateb i alwadau ffôn ynglŷn â sefylllfa'r cwmni.
Ond mae'r BBC wedi clywed gan weithwyr eu bod wedi eu galw i gyfarfod arbennig am 14:00 dydd Iau.
Cafodd y gweithwyr wybod fod y cwmni yn mynd i ddwylo'r gweinyddwr a hynny'n wirfoddol.
Mae drysau'r adeilad wedi eu cloi.
Mae gan Mancoed hefyd safle arall yn Milton Keynes.