Cofnodi ymlweliad cofiadwy Prescott
- Cyhoeddwyd

Roedd Mr Prescott yn ymgyrchu yn y Rhyl pan gafodd yr wy ei daflu
Mae plac wedi ei osod ar y llecyn lle wnaeth y cyn brif weinidog John Prescott ddyrnu dyn am daflu wy ato.
Roedd Mr Prescott wedi bod yn ymgyrchu yn y Rhyl cyn etholiad cyffredinol 2001 .
Mae'r plac yn cynnwys cod QR sy'n galluogi pobl i ddarllen am y digwyddiad ar ffon symudol
Hwn yw'r diweddara mewn cyfres o gofebion tebyg yn y Rhyl, ac mae'r cod QR yn rhoi adroddiad cryno o wefan HistoryPoints.
Roedd Mr Prescott yn cerdded tuag at fynedfa theatr y dref er mwyn areithio mewn rali pan gafodd yr wy ei daflu.
Cafodd y cyfan ei recordio ar fideo a chamera gan newyddiadurwr.
Dywedodd Ruth Pritchard, o Glwb Hanes y Rhyl: "Mae'r digwyddiad yn 2001 yn rhan o chwedl llawr gwlad.
"Rwyf wrth fy modd cod QR yn gallu dweud wrth bobl beth ddigwyddodd, gan adrodd y stori yn y fan a'r lle.

Mae'r plac wedi ei osod yn y man lle digwyddodd yr ymosodiad