Enwi'r Dywysoges newydd
- Cyhoeddwyd

Y Dywysoges Charlotte Elizabeth Diana o Gaergrawnt
Cyhoeddodd Palas Kensington mai Charlotte Elizabeth Diana yw enw'r babi brenhinol newydd.
Fe fydd yn cael ei hadnabod fel Y Dywysoges Charlotte o Gaergrawnt.
Cafodd ei geni ddydd Sadwrn, yn pwyso wyth pwys tair owns.
Dyma ail blentyn y cwpl brenhinol.
Charlotte
Mae'r enw Charlotte, y ffurf fenywaidd o Charles, o dras frenhinol, wrth i'r enw ddod yn boblogaidd yn y 18fed ganrif yn ystod teyrnasiad Siôr III.
Hefyd fe brynodd y Brenin Siôr Dŷ Buckingham i'w wraig, Y Frenhines Charlotte, yn 1761, i'w ddefnyddio fel cartref teuluol gerllaw Palas St James - yn ddiweddarach fe ddaeth y tŷ yn fwy adnabyddus fel Palas Buckingham.
Mae Charles hefyd yn enw ar ddau gyn Frenin Lloegr, yn ogystal â Thywysog Cymru, taid y dywysoges fach.
Mae gan Charlotte gysylltiad ar ochr y dduges hefyd, gan mai dyma enw canol ei chwaer, Pippa Middleton.
Fe wnaeth y Dug a'r Dduges ymddangos tu allan i'r ysbyty gyda'r babi yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.
Yna fe adawodd y tri am Balas Kensington.
Fe fydd y teulu yn teithio maes o law i Blas Anmer yn Norfolk.

Enw'r Dywysoges newydd ydi Charlotte (enw benywaidd o Charles, fel ei thaid) Elizabeth (fel ei hen nain, Y Frenhines Elizabeth II) Diana (ar ôl ei nain, Diana Tywysoges Cymru fu farw mewn damwain car yn 1997)