Cyfle ola' i roi barn ar newidiadau i'r cwricwlwm
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i roi eu barn ar ad-drefnu arfaethedig y cwricwlwm cenedlaethol.
Mae adroddiad gan gyn brif arolygydd ysgolion Cymru, Yr Athro Graham Donaldson, wedi argymell newidiadau ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys llai o brofion a dod a'r cynllun cyfnodau allweddol i ben.
Mae cam cyntaf yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener yn dilyn cyfres o ddadleuon cyhoeddus ledled Cymru.
Gall pobl ddarllen y cynigion ac ychwanegu eu sylwadau ar-lein.
Fe fydd ymateb i'r adroddiad - 'Dyfodol llwyddiannus' - yn cael ei ddadansoddi, a bydd y Gweinidog dros Addysg, Huw Lewis yn rhoi ei farn yn ffurfiol yn ddiweddarach yn yr haf.
Dywedodd y Gweinidog: "Er mwyn cael hyn yn iawn, mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan wrth adeiladu ein system ysgol newydd.
"Byddaf yn parhau i ymgynghori â phartïon sy'n ymwneud â'r mater, yn ogystal â phrofi a mireinio eu cynigion, er mwyn sicrhau bod addysg Gymraeg yn cael ei gweld fel system addysg sy'n arwain y ffordd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2015

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014
