Digwyddiad tancer yn achosi tagfeydd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwrthdrawiad wedi achosi problemau ar y ffyrdd, gan gynnwys ar yr A470
Mae gyrwyr yn ardal Caerdydd wedi wynebu oedi difrifol ar ôl i un o'r prif ffyrdd mewn i'r ddinas gael ei chau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a thri cherbyd arall.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A4232 ger Croes Cyrlwys wedi i'r lori droi ar ei hochr. Roedd y lori'n cludo 26 tunnell o ddeunydd cemegol ar y pryd.
Yn ôl datganiad gan Gyngor Bro Morgannwg, cafodd Asiantaeth Ffyrdd De Cymru, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi eu galw i leoliad y ddamwain.
Mae'r ffordd wedi ei hail-agor erbyn hyn.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y bobl oedd yn y cerbydau wedi dioddef mân anafiadau.
'Effaith sylweddol ar fusnes'
Wrth ymateb i'r trafferthion ar y ffyrdd o amgylch yn ddinas yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Rhodri Evans, llefarydd ar ran cangen Cymru o'r Ffederasiwn Busnesau Bychain: "Mae'r digwyddiad heddiw ar yr A4232 yn tanlinellu breuder isadeiledd trafnidiaeth Caerdydd.
"Mae mynd a dod o amgylch Caerdydd yn sialens i'n haelodau ar ddyddiau gwaith arferol, ond mae'r ddamwain heddiw wedi cael effaith sylweddol ar fusnes ar draws Caerdydd."

Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau yn ystod dydd Mercher.

Cafodd gyrwyr ar gyrion Caerdydd, ger Radur, eu heffeithio gan draffig