'Math newydd o wleidyddiaeth'
Mae Etholiad 2015 yn argoeli i fod yn un agos iawn, gyda'r un o'r pleidiau yn debygol o gael mwyafrif clir. Os bydd senedd grog arall, pa mor hir allai hi gymryd cyn ein bod ni'n gwybod pwy fydd yn ffurfio'r llywodraeth newydd?
Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n cloriannu'r ymgyrch ac yn trafod y posibiliadau wedi'r bleidlais ddydd Iau - gan ddarogan bod y DU ar drothwy cyfnod fydd â 'math newydd o wleidyddiaeth'.