Cyngor o blaid cais fferm solar yn Acrefair
- Cyhoeddwyd

Roedd y cais yn ymwneud â 19,500 o baneli solar ar safle 25 erw.
Mewn cyfarfod pwyllgor cynllunio nos Fawrth penderfynodd cynghorwyr Wrecsam gymeradwyo cais cynllunio ar gyfer Fferm Solar ger Acrefair.
Roedd y bleidlais yn unfrydol.
Dywedodd y cwmni tu ôl i'r cais, Lightsource Renewable Energy, y byddai digon o ynni ar gyfer hyd at 1,350 o gartrefi.
Roedd y cais yn ymwneud â 19,500 o baneli solar ar safle 25 erw.
Mae'r cwmni wedi dweud y byddai hyn yn arbed 2,310 o dunelli metrig o allyriadau carbon y flwyddyn.