Ymgais i lofruddio: Dynes yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dynes gafodd ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi ymddangos gerbron llys yr ynadon.
Fe ymddangosodd Rhian Robinson, 32 oed, yn Llys Ynadon Pen-y-bont ddydd Mercher, lle gafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd, ble bydd yn ymddangos ar 25 Mai.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ym Mhontardawe am 17:45 ddydd Mawrth, 14 Ebrill.
Cafodd dynes 63 oed ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2015
