Uned famolaeth: Gwrandawiad wedi dod i ben am y diwrnod
- Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn y llys yn Yr Wyddgrug
Mae barnwr wedi dechrau clywed cais am adolygiad barnwrol i gynlluniau i newid gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Glan Clwyd wedi i drafodaethau preifat rhwng y bwrdd iechyd ac ymgyrchwyr fethu.
Roedd Mrs Ustus Nicola Davies wedi galw ar gynrychiolwyr y bwrdd iechyd a'r ymgyrchwyr i drafod a fyddai modd cynnal ymgynghoriad ynglŷn â'r newidiadau i'r gwasanaethau er mwyn osgoi mynd â'r mater drwy'r llysoedd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am israddio'r gwasanaeth mamolaeth arbenigol yn yr ysbyty ym Modelwyddan.
Her gyfreithiol
Ond mae'r bwrdd wedi wynebu her gyfreithiol drwy gais am adolygiad barnwrol yn y Llys Sirol yn Yr Wyddgrug ddydd Iau.
Mae ymgyrchwyr wedi dadlau nad oedd y bwrdd iechyd wedi ymgynghori'n iawn.
Dywedodd Y Barnwr, Yr Anrhydeddus Mrs Ustus Davies, ei bod yn dueddol o feddwl y byddai'n caniatáu'r cais am adolygiad barnwrol.
"Rwyf yn ceisio caniatáu i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu gael cyfle i gyflwyno eu barn," meddai.
Bydd y gwrandawiad yn ailddechrau fore Gwener.