Cameron yn addo mwy o bwerau i Gymru
- Cyhoeddwyd
David Cameron
Mae David Cameron wedi addo bwrw ymlaen â chynlluniau i ddatganoli mwy o rym i Gymru "mor gyflym ag y gallai."
Roedd ei addewid wrth iddo ddychwelyd i Downing Street ar ôl i'r Ceidwadwyr ennill yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd y byddai'n parhau i lywodraethu, "gan barchu" gweinyddiaethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Bydd llywodraethau cenhedloedd y DU yn dod yn fwy pwerus ac yn derbyn cyfrifoldebau ehangach," meddai.
'Thema fawr'
Wedi buddugoliaeth ei blaid dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wrth BBC Cymru: "Rwy'n credu y bydd datganoli a'r berthynas rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig yn thema fawr yn y Senedd dros y pum mlynedd nesaf.
"Rydym bellach yn gwybod fod darn newydd o ddeddfwriaeth yng Nghymru eisoes yn cael ei ysgrifennu gan fy swyddogion yn Swyddfa Cymru. Mae hynny'n mynd i gryfhau'r setliad datganoli yng Nghymru.
"Mae hefyd yn mynd i wneud datganoli yn decach i Gymru oherwydd ein bod wedi ymroi'n llwyr i ddilyn yr ymrwymiad hanesyddol hwn i ddod â chyllid teg i Gymru, i sicrhau fod datganoli yn gweithio yn well er budd pobl Cymru ac economi Cymru."
'Holl gytundeb'
Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Rydym wedi treulio'r pum mlynedd diwethaf yn cyflwyno rhagor o bwerau i Gymru - yn aml yn erbyn llawer o wrthwynebiad o fewn y Blaid Dorïaidd.
"Rhaid i David Cameron gyflwyno holl gytundeb Dydd Gŵyl Dewi ac mae hynny'n cynnwys cyllid teg heb unrhyw amodau."
Mae Cymru Fyw wedi gofyn am ymateb Llafur a Phlaid Cymru.