Tesco: Gwadu ceisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio wedi ymosodiad yn archfarchnad Tesco yn Yr Wyddgrug.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig - â chyllell machete a morthwyl - fis Ionawr eleni.
Fe ymddangosodd Zack Davies - 25 oed o'r Wyddgrug - yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo.
Mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio Sarandev Bhambra - 24 oed o Leeds - sy'n gweithio fel deintydd yn y dref.
Fe gafodd Davies ei gadw yn y ddalfa nes ei wrandawiad nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015

- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2015
