Buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr
Ar ôl i'r Ceidwadwyr sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol fe ddywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod Prydain ar "...drothwy rhywbeth arbennig".
Roed hi'n fuddugoliaeth annisgwyl i'r Torïaid tra bod Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn chwilio am arweinwyr newydd ar ôl i Ed Miliband a Nick Clegg ymddiswyddo.
Dyna wnaeth arweinydd UKIP hefyd wedi i Nigel Farage fethu hawlio'i le yn Nhŷ'r cyffredin.
Yng Nghymru pedair sedd na'th newid dwylo. Y Ceidwadwyr yn cipio tair, ma' Llafur wedi colli un, tra i Blaid Cymru gadw gafael ar eu tair sedd nhw. Dim ond un sedd Gymreig sy' ar ôl gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Adroddiad Aled Huw.