Cannoedd o weithwyr dur yn protestio dros bensiynau
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o weithwyr dur wedi cynnal rali ym Mhort Talbot ddydd Sadwrn oherwydd anghydfod pensiynau gyda chwmni Tata.
Dywedodd arweinwyr undebau eu bod yn gobeithio y bydd cannoedd yno.
Eisoes mae'r undebau wedi dosbarthu papurau pleidleisio i weithwyr oherwydd y posibilrwydd o weithredu diwydiannol.
Fe allai newidiadau i bensiwn y cwmni olygu bod gweithwyr yn ymddeol yn 65 oed yn lle 60.
7,000
Ond dywedodd llefarydd ar ran Tata fod manylion y pensiwn yn gystadleuol.
Mae'r cwmni yn cyflogi 7,000 ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Llanelli.
Hefyd mae safleoedd yn Scunthorpe, Rotherham, Hartlepool a Redcar yn Lloegr.
Dywedodd undebau Community, GMB ac Unite ei bod hi'n arferol i weithwyr ymddeol yn gynnar oherwydd gofynion y swydd.


Mae'r cwmni wedi dweud bod y cynllun pensiwn yn wynebu bwlch ariannol, yn bennaf oherwydd bod pobl yn byw'n hŷn.
Mae'r cwmni wedi bod yn ymgynghori a 17.000 o weithwyr ynglŷn â newid y cynllun pensiwn.
Dywedodd llefarydd: "Byddwn yn ystyried barn y gweithwyr cyn gwneud penderfyniad terfynol. Mae cwmni Tata yn fodlon trafod gyda'r undebau er mwyn datrys problemau sylweddol y cynllun pensiwn."
Undebau Community a'r GMB sy' wedi anfon papurau pleidleisio ac mae disgwyl i Unite wneud yr un peth.