Llawfeddygon yn achub llaw dyn ar ôl damwain gyda llif
- Cyhoeddwyd

Mae Edryd Jones (de) wedi canmol ei gymdogion, gan gynnwys Rob Edwards
Mae cyn brifathro o'r Rhondda yn cyfri ei fendithion ar ôl i arbenigwyr yn Ysbyty Treforys, Abertawe lwyddo i ailgysylltu ei law yn dilyn damwain.
Bum mis yn ôl, tra'n defnyddio llif drydan yn ei gartref yng Nglynrhedynog, fe lifodd Edryd Jones ei fraich chwith i ffwrdd - rhwng ei benelin a'i arddwrn.
Fe gafodd top llawes Mr Jones, 69 oed, ei ddal yn y peiriant, gan dynnu ei fraich dan y llif.
Ar ôl y ddamwain, fe lwyddodd Mr Jones i gyrraedd tŷ cymydog, Rob Edwards, er mwyn cael cymorth.
Fe ddefnyddiodd Mr Edwards lliain llestri er mwyn atal y gwaedu.
"Roeddwn i mewn sioc, yn meddwl ei fod o mewn trafferth ddifrifol," meddai Mr Edwards.

Cafodd Mr Jones lawdriniaeth am naw awr i achub y law

Erbyn hyn mae'n gallu dal pethau gyda'i law chwith, ac yn gallu symud ei fysedd
Aeth y ddau i'r stryd a gweiddi am help, ac fe wnaeth un cymydog ffonio'r ambiwlans, tra aeth cymydog arall i nôl llaw Mr Jones, a'i roi o mewn rhew.
Cafodd Mr Jones ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys lle cafodd lawdriniaeth am naw awr i ailgysylltu'r llaw.
Dywedodd Mr Jones, cyn brifathro ysgol gynradd Llwydcoed, ei fod wedi bod yn paratoi ystafell yn y tŷ ar gyfer ei wyres pan ddigwyddodd y ddamwain.
"Roedd y cwbl wedi digwydd mewn eiliadau. O' ni ddim yn gwybod mod i wedi llifo hi ffwrdd. Yr unig amser deimlais i fod hi ddim 'na oedd pan oeddwn wedi trio codi'r pishyn pren, a gweld bod dim llaw.
"Y peth cyntaf o' ni feddwl oedd, dwi'n mynd i farw fan hyn - mynd i waedu i farwolaeth.
"O' ni'n cael fflachiau o'r teulu mynd o mlaen fy llygaid, y wraig a'r plant, a fe wedes i mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth, a daeth yr awydd i fyw drosta i ac es i lan at dŷ fy nghymydog."
Dywedodd ei fod mor ddiolchgar i'w gymdogion, y parafeddygon a'r staff meddygol wnaeth gymryd gofal ohono.

Roedd Mr Jones yn gwneud gwaith yn y tŷ pan ddigwyddodd y ddamwain
Dywedodd Dean Boyce, llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Treforys: "Mae'n cymryd amser eithaf hir i'r teimlad ddod yn ôl i'r llaw - rwy'n falch ei fod nawr yn gallu cael defnydd ohoni."
Mae Ysbyty Treforys yn un o nifer fechan o ysbytai yn y DU sydd â'r nifer angenrheidiol o arbenigwyr i gwblhau'r math yma o lawdriniaeth, a'r unig un yng Nghymru.

Dywedodd Mr Boyce, oedd yn rhan o'r tîm o lawfeddygon, wedi dweud y dylai Mr Jones allu defnyddio'r llaw yn y dyfodol