Caint v Morgannwg: Diwrnod 3
- Cyhoeddwyd

James Tredwell
Fe lwyddodd holl fatwyr Caint gyfrannau at yr achos, gan roi'r tîm cartref mewn safle cryf iawn ar ddiwedd y trydydd diwrnod o chwarae yn erbyn Morgannwg
Llwyddodd partneriaeth James Tredwell (53) a Joe Denly (66) sgorio cyfanswm o 114 , cyn i fowlio Michael Hogan (4-65) atal ychydig ar y sgorio.
Ond gyda chyfraniadau gan Brendan Nash (45), Fabian Cowdrey (54) a Sam Billings (37) mae Caint wedi gosod nod o 404.
Ar ddiwedd y chwarae roedd Morgannwg 32-1, ac angen 372 i ennill.