Colli 90 o swyddi mewn ffatri awyrennau
- Cyhoeddwyd

Ffatri GE Aviation yn Nantgarw
Mae tua 90 o weithwyr i golli eu gwaith mewn ffatri cynhyrchu peiriannau awyrennau yn y de.
Dywedodd llefarydd GE Aviation yn Nantgarw, ger Caerffili, eu bod yn galw am ddiswyddiadau gwirfoddol oherwydd bod y busnes wedi crebachu.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni y byddant yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol gyda'r undeb llafur Unite.
Ychwanegodd y datganiad y byddant yn "parhau i gynnal trafodaethau agored" gyda'r gweithwyr.
Dywedodd AS Caerffili Wayne David fod y newyddion yn hynod siomedig.