Car yn taro tŷ yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae teulu wedi gorfod gadael eu cartref yng Nghaerdydd ar ôl i gar daro i mewn i'w tŷ.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Cyncoed am tua 09:30 fore Iau.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond ni fydd y car yn cael ei symud nes bod y cyngor wedi asesu strwythur yr adeilad.
Cafodd y gyrrwr sylw gan feddyg ond doedd dim oedd angen iddo fynd i'r ysbyty, yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans.
