Creu 50 o swyddi newydd ym Mhenarlâg
- Cyhoeddwyd

Nod y cwmni yw sicrhau bod nwyddau yn cyrraedd safonau diogelwch.
Mae cwmni yn Sir y Fflint, sy'n cynnal profion ar ddeunyddiau peryglus, wedi creu 50 o swyddi newydd.
Agorodd Grŵp CSA labordy a swyddfeydd newydd ym Mharc Diwydiannol Penarlâg ddydd Iau.
Eisoes roedd 40 yn gweithio yno.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Ein gobaith yw y bydd y cyfanswm yn codi i 120 o fewn tair blynedd."
Mae'r cwmni'n sicrhau bod nwyddau'n cyrraedd safonau diogelwch angenrheidiol.