Ysbyty plant: Agor estyniad gwerth £64m
- Cyhoeddwyd

Ddegawd ers iddo agor, mae'r unig ysbyty arbenigol i blant yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol.
Fe fydd y prif weinidog yn agor yr ail ran o Ysbyty Arch Noa, gwerth £64miliwn, yn swyddogol.
Mae'n golygu y bydd gofal arbenigol i blant o dan yr un to yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.
Mae meddygon yn dweud y bydd plant o bob rhan o Gymru yn elwa o'r datblygiad i'r ysbyty.
Dywedodd Dr Allan Wardhaugh, cyfarwyddwr clinigol iechyd acíwt plant yng Nghaerdydd a'r Fro ei fod yn hynod gyffrous.
Cynnig cysur
"Mae digonedd o le yn yr adeilad newydd ac fe fydd yr adeilad yn cynnig cysur ac urddas i'r cleifion sy'n dod yma, yn ogystal â dod a grŵp o glinigwyr sydd ei angen i ni allu gweithio gyda phlant at ei gilydd am y tro cyntaf," meddai.
"Ein nod yw darparu cymaint o'r cysuron cartref ag y gallwn i yn ystod eu harhosiad - yn sicr bydd yn well na'r wardiau plant eraill yr wyf wedi gweithio arnynt.
"Mae yna welyau yn yr holl ystafelloedd ar gyfer rhieni. Sy'n caniatáu ychydig mwy o normalrwydd gan fod y plant yn mynd drwy ddigon o straen fel y mae."

Dywedodd Dr Jennie Thomas bod yr ysbyty yn "blatfform i gyd-lynnu" gwasanaethau plant
Dywedodd Dr Jennie Thomas, Cyfarwyddwr Clinigol Menywod a Phlant, bod yr estyniad yn cynnig adnoddau hollbwysig i drin plant yn yr oes sydd ohoni.
"Mae'r byd wedi symud ymlaen, 'dy ni'n disgwyl plant a'u rhieni i fod yn rhan o'i gofal nhw a chymryd rhan yn y penderfyniadau, a ma' hwnna'n cymryd amser ac adnoddau i allu gwneud hynny...Mae'r adnoddau yma yn caniatáu i ni weithio yn llawer mwy eang."
Lleihau gofid
Owain Clarke, gohebydd iechyd BBC Cymru yn holi Dr Iolo Doull, pediatrydd ymgynghorol
Mae'r adeilad newydd yn cynnwys pum theatr llawdriniaeth arloesol, a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer llawdriniaeth plant yn unig.
Mae cael theatrau plant pwrpasol yn helpu i leihau gofid a all ddigwydd pan fydd plant yn dod ar draws oedolion sy'n ddifrifol wael.
Mae'r theatrau hefyd yn cynnwys offer arbenigol ar gyfer plant yn ogystal â'r dechnoleg ddiweddara i reoli'r anesthetig sy'n cael ei ddefnyddio.
Mae'r wardiau'r adain newydd yn sylweddol fwy nag yn yr adeilad gwreiddiol - gyda mwy o lety ar gael i rieni ynghyd â nifer o ardaloedd chwarae.
Dywedodd Dr Thomas: "'Dy ni isho i'r profiad i'r plentyn fod mor llyfn â phosib, mae'r staff wedi bod ynghyd a'r broses o ddylunio'r theatrau a sut mae'r plentyn yn mynd i mewn i theatr a dod allan."
Ychwanegodd bod yr estyniad yn "adeilad arbennig sy'n rhoi platfform i ni gyd-lynu'r gwasanaethau yma sydd eu hangen ar blant yng Nghymru".

Fe fydd ardaloedd chwarae ar gael yn yr estyniad newydd
Mae'r ail gam hefyd yn cynnwys pwll hydrotherapi newydd a sganiwr MRI newydd.
Mae'r sganwyr arbennig yma yn fwy o faint ac yn llai clawstroffobig na rhai traddodiadol ac yn caniatáu i blant weld y tu allan i'r sganiwr tra'n ei ddefnyddio.
Tu hwnt i Gaerdydd
Yn ogystal â chleifion ifanc o ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, fe fydd yr ysbyty hefyd yn cynnig gofal mwy arbenigol ar gyfer plant ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru.
Ond yn sgil trafodaethau am ganoli rhai gwasanaethau ar draws de Cymru fe allai'r ysbyty fod yn cynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i blant yn y dyfodol.
Er bod digonedd o le yn yr ysbyty i gynnig mwy o wasanaethau, nid oes digon o staff ar hyn o bryd.
"Mae dau ddarn ar goll i mi," meddai Dr Wardhaugh.
"Un peth fyddai uned newydd-anedig, ond mae angen i ni wneud ychydig o waith i gael yr amgylchedd iawn yn yr ysbyty yn gyntaf.
"Fe hoffwn hefyd weld adran achosion brys sy'n benodol i blant - boed hynny ochr yn ochr â'r adran achosion brys presennol neu boed yn rhan o'r ysbyty plant - mae'n rhywbeth yr ydym yn ei drafod."