Angladd Johanna Powell wedi marwolaeth cwch Laos
- Cyhoeddwyd

Cafodd rhosod melyn eu cario gan bobl yn y gwasanaeth
Mae tua 250 o bobl wedi bod yn angladd dynes fu farw ar wyliau yn Laos yn ne-orllewin Asia.
Roedd Johanna Powell, 37 o Gaerdydd, ar wyliau gyda ffrindiau pan aeth y cwch yr oedd hi arno i drafferth ar afon Mekong ar 11 Ebrill.
Roedd Ms Powell yn olygydd lluniau gyda BBC Cymru.
Cafodd rhosod melyn eu cario i mewn i Amlosgfa Glyntaf ym Mhontypridd lle cafodd y gwasanaeth ei gynnal.
Dywedodd y gweinidog bod Ms Powell yn "llawn bywyd, hwyl, penderfyniad a llawn antur".
Fe wnaeth naw o deithwyr eraill, chwech o Brydain, a thri aelod o griw'r llong lwyddo i gyrraedd y lan wedi'r digwyddiad.
Cafodd cwest i farwolaeth Ms Powell ei agor a'i ohirio yn Aberdâr ddydd Mawrth.

Roedd Ms Powell ar wyliau gyda ffrindiau yn Laos

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2015

- Cyhoeddwyd12 Mai 2015
