Shân Cothi'n ceisio torri record byd deuawd pellaf
- Cyhoeddwyd

Y gantores Shân Cothi fydd yn ymuno ag Andres Evans ar gyfer y perfformiad o Calon Lân
Mae manylion darllediad uchelgeisiol fydd yn gobeithio gosod record byd am y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd wedi cael eu cyhoeddi gan BBC Cymru.
Bydd y cysylltiad byw ar BBC Radio Cymru ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC, 5 Mehefin, yn pontio dros 7,000 o filltiroedd rhwng Cymru a Phatagonia.
Y gantores Shân Cothi, sy'n cyflwyno rhaglen foreuol o ddydd Llun i ddydd Gwener ar Radio Cymru, fydd yn ymuno ag Andres Evans yn yr Ariannin ar gyfer perfformiad arbennig o'r emyn, Calon Lân.
Mae'r cynllun yn un o'r prosiectau i nodi 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg, Y Wladfa, ym Mhatagonia.
'Uno dwy wlad'
Bydd y darllediad unigryw ar Radio Cymru, fydd yn rhan o sioe brynhawn Gwener Tudur Owen, hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Wales a BBC Radio 3.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i ardystio gan Guinness World Records, un o'r prosiectau mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed gan Radio Cymru o ran technoleg a threfniadau.

Mae Andres Evans wedi bod yn canu mewn eisteddfodau ym Mhatagonia am 28 mlynedd
Dywedodd Shân Cothi: "Mae'n wych bod cerddoriaeth yn uno Cymru a'r Wladfa, ac yn hyfryd bod cân fel Calon Lân yn uno dwy wlad sydd â chysylltiad mor agos o ran hanes a thraddodiad.
"O'r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae'n mynd i fod yn dipyn mwy o her nag y byddech yn ei feddwl oherwydd yr oedi sy'n ynghlwm â chael y sain at ei gilydd o bendraw'r byd, ond rwy'n croesi fy mysedd y bydd popeth yn iawn ar y diwrnod.
"Mae'n gyffrous iawn, a bydd yn berfformiad a hanner, rwy'n siŵr. Gobeithio y byddwn ni'n codi'r to - yma yng Nghymru ac ar ochr arall y byd hefyd."
Mae Andres Evans yn 33 oed ac wedi bod yn canu mewn eisteddfodau ym Mhatagonia am 28 mlynedd.
"Alla i ddim credu'r peth, i fod yn onest - mae'n brosiect gwych i fod yn rhan ohono," meddai.
"Gobeithio y bydd y cyfan yn mynd yn iawn, ond rwy'n hapus iawn i chwarae fy rhan, yn enwedig o gofio ein bod eleni yn dathlu 150 mlynedd Y Wladfa."