Nid yw'n cyrff ar werth!
- Cyhoeddwyd

Sue (canol) gyda Raving Beauties
Yn 1979 mi greodd Sue Jones-Davies dipyn o gynnwrf trwy ymddangos yn noeth yn y ffilm ddadleuol 'The Life of Brian'.
Mae agwedd merched tuag at eu cyrff yn chwarae rhan ganolog hefyd ym mhrosiect diweddara'r actores o Aberystwyth. Bu Sue yn dweud mwy wrth Cymru Fyw am gefndir cyfrol farddoniaeth 'Hallelujah for 50ft Women':
Urddas a rhamant
Yr ysbrydoliaeth tu ol i'r gyfrol ddiweddara yw'r awydd angerddol i ddathlu ein cyrff. Rhaid chwalu'r ddelwedd 'ma sy'n dal i fodoli o ferched fel doliau 'Barbie' grotesg.
Mae'r grym ganddom i gyfathrebu, mae ein calonnau rhamantus yn rhoi a derbyn tosturi, mae'n croen yn heneiddio yn urddasol pan y gwelwn harddwch ym mhopeth.
Taith o ddealltwriaeth
Roedd y plant yn ifanc iawn gen i pan y gwnes i a nifer o ferched eraill yn y byd actio ffurfio grŵp theatrig ffeministaidd 'Raving Beauties', dolen allanol.
Tyfodd y grŵp mas o rwystredigaeth ddofn gyda bywyd teuluol, diniweidrwydd ac angen angerddol i fod yn greadigol.
Gyda phlant ifanc hefyd roedd e'n ffordd i gael gwaith a oedd yn siwtio'r galwadau teuluol. Doedd 'na ddim childcare bryd hynny.
Cabaret o farddoniaeth a chaneuon oedd ein cynhyrchiad cyntaf yn nhafarn The Red Lion yn Islington, Gogledd Llundain, a chafodd rhannau ohono ei ddarlledu ar noson agoriadol Channel 4 yn 1982 a mi werthodd y sioe bob tocyn yng Ngŵyl Caeredin.

Sue yn perfformio gyda Anna Carteret, un o gyd-syfaenwyr Raving Beauties
Barddoniaeth y ferch
Byth ers hynny ry'n ni wedi bod ar daith enfawr yn bersonol, yn wleidyddol a phroffesiynol, a ry'n ni'n dal i ddysgu rhywbeth newydd!
Cawsom ymateb da i'r farddoniaeth ac yn sgil hynny fe 'naethon ni lwyddo i gael asiant llenyddol i weithio ar ein rhan. Ffrwyth hynny oedd cyhoeddi ein casgliad llenyddol cyntaf "In The Pink' yn 1983.
Gwerthodd y gyfrol yn dda ac ers hynny ry'n ni wedi cyhoeddi tair cyfrol arall.
Mae ein sioeau a'n llyfrau yn dehongli materion o safbwynt y ferch - fel gwaith, bod yn fam, cariad, rhywioldeb, creadigrwydd a thrais yn y cartref. Mae nhw yn themâu y gall menywod ar hyd a lled y byd uniaethu 'da nhw.

Sue Jones-Davies yn The Life of Brian
"Dathlu ein cyrff"
Mewn sawl agwedd rwy'n credu bod gan ferched erbyn hyn fwy o hyder yn eu cyrff a'u bywydau ond pan roedden ni yn dechrau Raving Beauties, doedd 'na ddim internet.
Mae hyn wedi galluogi llawer mwy o bobl i weld pornograffi. Mae pobl sy'n gweld y delweddau yma yn cael darlun ffug o gyrff merched.
Yn y siopau, mae dillad anaddas yn cael ei farchnata i ferched ifanc iawn iawn. Ddyle hynny dim digwydd.
Mae 'na bwysau ofnadw' y dyddiau hyn ar ferched ifanc i edrych yn dda. Dyw ein cyrff ddim yn rhywbeth sleazy.
Noethni
Roedd 'na rai yn beirniadu The Life of Brian gan fy mod wedi ymddangos yn noeth ond fe ddarllenais y sgript a gweld pa mor ddoniol oedd e.
Doedd e ddim yn sleazy ac ro'dd yn rhaid i Graham Chapman (Brian) fod yn noeth hefyd felly doedd dim posib beirniadu'r ffilm am ecsploitio menywod.
Beth sy'n bwysig gyda 'Hallelujah for 50ft Women' yw fod y farddoniaeth yn sail i drafodaeth. Mae'n rhoi cyfle i ferched siarad am eu cyrff, am eu rhywioldeb a materion eraill sy'n ganolog i'n bywydau.
Does dim llawer o lefydd i ferched ddod at ei gilydd i rannu profiadau a gwybodaeth ond trwy gyflwyno barddoniaeth fel hyn gallwn wneud rhywbeth i geisio dinistrio'r darlun o gymdeithas ble mae ein cyrff a phopeth arall ar werth.
Bydd Sue Jones-Davies yn cyflwyno detholiad o 'Hallelujah for 50ft Women' (Bloodaxe Press) yn y Siop Lyfrau, Aberystwyth, Nos Iau,21 Mai am 18:45
