Ymchwiliad i lofruddiaeth yn parhau ar ôl tân Cwmbrân
- Cyhoeddwyd

Bu farw Samantha Thomas yn y tân ar Heol Shakespeare yng Nghwmbrân
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth dynes mewn tân difrifol yng Nghwmbrân yn parhau ddydd Mercher.
Bu farw Samantha Thomas, 29 oed, yn y digwyddiad mewn fflat ar Heol Shakespeare yn ardal St Dials y dref fore Mawrth.
Mae dyn 49 oed o Gwmbrân, gafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn dilyn y digwyddiad, wedi cael ei arestio.
Mae'n parhau i gael ei drin yn yr ysbyty ar hyn o bryd, ac nid yw'r heddlu wedi dechrau ei gwestiynu.
Mae disgwyl y bydd ymchwilwyr arbenigol yn ymweld â'r fflat ddydd Mercher.
Bu 30 o ddiffoddwyr yn delio â'r digwyddiad, ddechreuodd am tua 06:40.
Roedd y tŷ gafodd ei effeithio yn un o nifer o fflatiau, a dywedodd yr heddlu bod pobl wedi eu symud o'r fflatiau eraill a bod llety wedi ei ddarparu ar eu cyfer yn y cyfamser.

Fe gafodd pobl eu symud o fflatiau cyfagos


Bu'r cyhoedd yn gadael teyrngedau i Samantha Thomas
