Traethau: Mwy o faneri glas
- Cyhoeddwyd

Mae traeth Lystep yn Sir Benfro yn un o'r traethau Baner Las
Mae nifer y traethau yng Nghymru â baneri glas oherwydd ansawdd uchel y dŵr wedi codi.
Saith yn fwy na llynedd, hynny yw 41, sydd â'r faner las ac enillodd 30 wobr arfordir gwyrdd oherwydd natur eu hamgylchfyd.
Sir Benfro sydd ar frig y rhestr - 11 o faneri a 12 gwobr arfordir. Mae Gwynedd (saith gwobr) ac Ynys Môn (chwe gwobr) hefyd wedi gwneud yn dda.
Mae traethau yng Nghonwy a Sir Ddinbych hefyd wedi elwa eleni, gan adennill pedair Gwobr Baner Las newydd o ganlyniad i welliant yn ansawdd y dŵr. Roedd 'na hefyd newyddion da i Farina Abertawe, yr unig farina yng Nghymru all hawlio Gwobr Baner Las.
Cafodd 60 o draethau wobr lan y môr am fod ansawdd y dŵr yn dda.
'Goreuon y byd'
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol Carl Sargeant: "Rwy'n falch iawn bod Cymru wedi cael dros 130 o wobrau arfordirol, gan osod traethau Cymru ymhlith goreuon y byd.
"Mae'r gwobrau'n dangos safon uchel y dŵr ymdrochi sydd yng Nghymru ac yn adlewyrchu amrywiaeth ein harfordir hardd, sy'n cael ei fwynhau gan ein cymunedau a chan y miliynau o ymwelwyr sy'n dod i draethau Cymru bob blwyddyn.
"Mae'r gwobrau hyn hefyd yn cydnabod y gwaith caled sy'n cael ei wneud gan bawb sy'n helpu i gyrraedd a chynnal y safonau uchel hyn. Byddwn yn dal i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Cadwch Gymru'n Daclus, er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posibl o ran ansawdd dŵr ymdrochi y naill flwyddyn ar ôl y llall."
Y Sefydliad er Addysg Amgylcheddol sy'n cynnig y baneri glas ar sail diogelwch, cyfleusterau, rheoli amgylcheddol, ac ansawdd y dŵr.
Maen nhw'n bwrw golwg ar draethau mewn 48 o wledydd ac yng Nghymru yr elusen Cadwch Gymru'n Daclus sy'n rheoli'r gwobrau.
'Hwb'
Yn ôl Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r arfordir yn bwysig iawn i Gymru oherwydd gall roi hwb i economïau lleol a'r diwydiant twristiaeth ac mae'n rhoi cyfle i ni arddangos ein gwlad hardd.
"Mae'r gwobrau'n ffordd wych o gydnabod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud bob blwyddyn gan y gwirfoddolwyr sy'n helpu i gynnal a gwella safon uchel ein harfordir. Hoffwn longyfarch ein henillwyr a diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud Gwobrau Arfordir Cymru mor llwyddiannus eleni."
Mae rhestr lawn o'r gwobrau a gafodd eu dyfarnu i'w gweld ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus , dolen allanol.

Mae traeth Llanddona yn un o'r goreuon ar Ynys Môn

Gwobrau Baner Las
Sir Benfro: Amroth, Aber Llydan, Coppet Hall, Dale, Lydstep, Niwgwl, Dinbych-y-pysgod (Traeth y Gogledd), Dinbych-y-pysgod (Traeth y De), Dinbych-y-pysgod (Traeth y Castell), Porth Mawr, Saundersfoot
Gwynedd: Aberdaron, Abersoch (De), Abermaw, Traeth y Graig Ddu, Morfa Dinlle, Pwllheli, Cricieth (Traeth y Promenâd)
Ynys Môn: Benllech, Porth Swtan, Llanddona, Porth Dafarch, Llanddwyn, Bae Trearddur
Ceredigion: Aberporth, Borth, Llangrannog, Harbwr Cei Newydd, Tresaith, Aberystwyth (Gogledd)
Abertawe: Bae Bracelet, Canol Caswell, Gorllewin Langland, Gorllewin Porth Einon, Marina Abertawe (dim traeth)
Conwy: Llanfairfechan, Bae Colwyn, Llandudno (Traeth y Gorllewin)
Pen-y-bont: Porthcawl (Rest Bay), Porthcawl (Bae Treco)
Sir Gaerfyrddin: Cefn Sidan
Sir Ddinbych: Prestatyn
Ffynhonnell: Cadwch Gymru'n Daclus

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2014
