Cynnig profion diciâu i fabanod
- Cyhoeddwyd

Mae babanod oedd yn uned babanod newydd-anedig ysbyty yn Abertawe yn cael cynnig profion iechyd, wedi iddi ddod i'r amlwg bod person oedd yn yr uned wedi profi'n bositif am y diciâu.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cysylltu â thua 100 o deuluoedd, oedd wedi ymweld â'r uned yn Ysbyty Singleton rhwng Ionawr a Mawrth.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod profion TB wedi eu trefnu fel mesur rhagofalus.
Ychwanegodd y Bwrdd nad oedd yr achos yn un heintus iawn, ac felly mae'r posibilrwydd o'r haint fod wedi ymledu yn isel iawn.
Dywedodd Dr Sara Hayes, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd:
"Diogelwch y babanod yw ein blaenoriaeth. Er bod lefel yr heintio yn isel a'r risg ohono'n ymledu yn isel iawn rydym am sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn iach."
Mae staff y bwrdd iechyd oedd yn yr adran ar y pryd hefyd wedi cael eu hysbysu.
Mae'r diciâu yn haint bacterol sy'n ymledu yn yr un modd â'r ffliw, ond nid yw mor heintus.
Er mwyn iddo fynd o berson i berson, mae'n rhaid i rywun fod mewn cyswllt agos gyda pherson sydd wedi'i heintio am gyfnod hir.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae modd trin y diciâu gyda chwrs o gyffuriau gwrth-feiotig am gyfnod o chwe mis.