Codiad cyflog o £10,000 i ACau
- Cyhoeddwyd

Bydd cyflog sylfaenol ACau yn codi £10,000 ar ôl etholiadau'r cynulliad y flwyddyn nesaf.
Bydd tâl aelodau o'r meinciau cefn yn cynyddu o £54,000 i £64,000 ym mis Mai 2016, o dan gynnig sydd wedi ystyried mwy o gyfrifoldebau i aelodau yn sgil datganoli pellach.
Yn dilyn adolygiad sydd wedi para dwy flynedd, mae'r corff sy'n gosod cyflogau a lwfansau Aelodau'r Cynulliad, wedi cadarnhau'r codiad cyflog.
Dywedodd y Bwrdd Taliadau bod y penderfyniad yn adlewyrchu cynnydd ym mhwerau'r Cynulliad ers i ddatganoli ddod i rym yn 1999 - a'r pwysau ychwanegol ar aelodau'r sefydliad.
Dywedodd cadeirydd y bwrdd, Sandy Blair: "Mae'r her bellach yn symud i'r pleidiau gwleidyddol a'r cyhoedd i sicrhau bod yr ymgeiswyr cywir, all wireddu potensial y pwerau ychwanegol, yn cael eu hethol."
Ychwanegodd y byddai'r newid hwn yn costio tua £700,000 yn ychwanegol i'r trethdalwyr flwyddyn nesaf.
Annog archwilio
Mae'r cynulliad yn lleihau faint sy'n cael ei gyfrannu i bensiynau ACau. Bydd y swm hwnnw'n gostwng tua £200,000 os yw'r newidiadau i bensiynau'n cael eu cymeradwyo gan y Trysorlys.
Bydd newidiadau hefyd yn cael eu cyflwyno i'r modd mae grwpiau gwleidyddol yn cael eu hariannu. Bydd y cyfanswm sy'n cael ei wario ar ariannu'r pleidiau'n aros yn gyson, ond bydd adnoddau'n cael eu canolbwyntio ar y gwrthbleidiau "er mwyn annog mwy o waith archwilio o'r llywodraeth".
Dywedodd Mr Blair bod y dystiolaeth dderbyniodd y bwrdd "yn awgrymu, tra'n cydnabod bod elfen o alwedigaeth mewn gwleidyddiaeth, mae'r cyflog yn ddull o hyrwyddo cynnydd mewn diddordeb, a pharodrwydd unigolion i wneud y swydd."
Beirniadaeth
Roedd y cynllun, a gynigiwyd gyntaf chwe mis yn ôl, wedi cael ei feirniadu gan undebau llafur a gwleidyddion.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, na allai weld sut y gallai'r blaid Lafur gefnogi'r cynnydd.
Byddai ei gyflog fel prif weinidog Cymru yn codi i £140,000, tra byddai aelodau cabinet yn derbyn £100,000.
Cafodd y penderfyniad terfynol, gan fwrdd annibynnol taliadau'r cynulliad, ei gyhoeddi ddydd Gwener yn dilyn dau ymgynghoriad.
Nid oes unrhyw ACau ar y bwrdd ac nid oes angen cymeradwyaeth gan y cynulliad ar benderfyniadau'r bwrdd.
Mae'r Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol yn ymgynghori ar gynlluniau i gynyddu cyflogau ASau o £67,000 i £74,000 ar hyn o bryd.
Anaddas
Wrth ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mewn cyfnod pan mae llawer o weithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn derbyn codiad cyflog o 1%, yn gweld eu cyflog yn cael ei rewi, neu hyd yn oed yn cael ei dorri mewn gwirionedd... ni allaf gefnogi codiad cyflog mor fawr i Aelodau Cynulliad.
"Yn yr hinsawdd economaidd bresennol nid yw'n addas, a byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno nad yw'n angenrheidiol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Grŵp Llafur: "Tra ein bod ni'n cydnabod annibyniaeth y Bwrdd Taliadau, mae'r Grŵp Llafur, yn gyson, wedi gwrthwynebu'r codiad cyflog hwn.
"Rydym yn siomedig nad yw ein tystiolaeth wedi cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniad y bwrdd."
Mi wnaeth llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ymateb drwy ddweud: "Yn wahanol i bleidiau eraill, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi ei gwneud hi'n gwbl eglur yn ein tystiolaeth i'r Bwrdd Taliadau bod y cynllun hwn yn annerbyniol.
"Bydd y codiad cyflog hwn yn digwydd ar ôl etholiadau'r cynulliad. Bryd hynny, bydd rhaid i bob Aelod Cynulliad benderfynu beth fydden nhw'n gwneud gyda'u cyflog."