Dirwy o £21,000 i Tesco am bwysau cnau anghywir
- Cyhoeddwyd

Roedd y labeli anghywir wedi cael eu harddangos cyn y Nadolig y llynedd
Mae cwmni archfarchnadoedd Tesco wedi cael dirwy o £21,000 am arddangos y pwysau anghywir ar bacedi o gnau yn Nhorfaen a Blaenau Gwent.
Clywodd Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener bod pacedi o gnau Walkers wedi cael eu gwneud yn llai, ond eu bod wedi eu labelu'n anghywir mewn siopau ar draws yr ardal.
Fe gafodd y disgrifiadau camarweiniol eu darganfod gan swyddogion safonau masnach wedi cwyn gan gwsmer.
Fe wnaeth Tesco gyfaddef i roi gwybodaeth anghywir ar y cnau, gan bledio'n euog i bum cyhuddiad.
Bydd rhaid i'r cwmni dalu £500 ychwanegol i ddioddefwyr yn ogystal.