Profion i 650 wedi pryderon iechyd stiwdio datŵ
- Cyhoeddwyd

Nid yw'r stiwdio ar agor bellach
Mae dros 650 o bobl wnaeth ddefnyddio stiwdio datŵs yng Nghasnewydd wedi cael profion yn dilyn apêl gan fwrdd iechyd.
Cafodd llythyron eu hanfon at gwsmeriaid ar 6 Mai ar ôl i bum person gael haint y croen ar ôl mynd yno.
Fe wnaeth meddyg wnaeth drin pedwar o'r bobl sylwi ar y cysylltiad.
Cafodd y stiwdio ei alw yn sawl enw, gan gynnwys Blue Voodoo, Sun Tattoo Studio a Flesh Wound, rhwng Mai 2013 a Ionawr 2015.
Er hynny, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud bod profion ar gyfer Hepatitis B, Hepatitis C a HIV yn dal i fod ar gael i unrhyw un aeth i'r stiwdio.
Gall unrhyw un sydd heb gael llythyr, ond oedd yn gwsmer, gael cyngor neu drefnu prawf drwy alw 02920 402528.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2015
