Damwain Nant-y-glo: Beiciwr modur wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Chapel RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Chapel Road

Mae dyn ifanc wedi ei arestio wedi i feiciwr modur farw ar ôl damwain ffordd yn Nant-y-glo ym Mlaenau Gwent.

Fe ddigwyddodd y ddamwain - rhwng car a beic modur - ar Ffordd y Capel toc wedi 18:00 nos Wener, Mai 22.

Bu farw dyn lleol 43 oed o'i anafiadau.

Mae dyn 19 oed o ardal Caerdydd wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth, dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Nawr, mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth. Gall unrhywun welodd y ddamwain gysylltu â'r heddlu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod 401 22/05/15.