Ynni llanw: Enwi prif gontractwr ar gyfer cytundeb £200m
- Cyhoeddwyd

Mae'r datblygwyr yn gobeithio bydd y llanw yn cynhyrchu ynni erbyn 2018
Mae enw'r cwmni fyddai'n adeiladu rhan sylweddol o lagŵn arfaethedig Bae Abertawe, pe bai'r cynllun yn gweld golau dydd, wedi ei gyhoeddi.
Cwmni o Gaint yw Laing O'Rourke sydd wedi ei ddewis ar gyfer adeiladu tyrbin 1,345 troedfedd o uchder. Y nhw hefyd fyddai'n codi'r llifddor i reoli llif y dŵr. Byddai cytundeb Laing O'Rourke werth £200 miliwn.
Byddai'r cynllun yn golygu bod 500 o weithwyr yn cael eu cyflogi pan fo'r gwaith ar ei anterth - ac mae disgwyl i'r prosiect cyfan greu 1,850 o swyddi yn y maes adeiladu. Mae'r cynllun cyfan werth cyfanswm o £850 miliwn.
Dywed y cwmni y bydd concrid, a defnyddiau a nwyddau eraill, yn cael eu prynu'n lleol.
Dywedodd Andrew McNaughton, cyfarwyddwr adeiladau Tidal Lagoon Power bod cyhoeddiad heddiw "yn gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect."
Bydd y cytundeb ar gyfer y prif waith adeiladu yn cael ei arwyddo yn ddiweddarach eleni.
Ar hyn o bryd mae'r cynllun 240 megawat yn cael ei archwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd newydd, Amber Judd, wneud penderfyniad terfynol ynglŷn ag a ddylid bwrw 'mlaen gyda chynllun lagŵn Bae Abertawe fis nesaf.

Ffeithiau am lagŵn Bae Abertawe

Byddai morglawdd chwe milltir o hyd yn cael ei adeiladu
Hon fyddai'r orsaf ynni gyntaf i gael ei phweru gan lif y dŵr o lagŵn.
Mae disgwyl i'r safle gynhyrchu ynni am 120 o flynyddoedd.
Pan fydd y safle yn weithredol mae disgwyl iddo greu 500GWH o ynni bob blwyddyn - digon i gyflenwi mwy na 155,000 o gartrefi.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2014

- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
