Hwb o £6 miliwn i ardaloedd gwledig yn y gogledd ddwyrain

  • Cyhoeddwyd
Landlord Steve Marquis with, from left, Helen Roberts, of Cadwyn Clwyd, Wyn Roberts and Malcolm HarrisonFfynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn y gorffennol mae'r cynllun wedi bod o gymorth wrth sefydlu swyddfa'r post mewn tafarn yn Helygain, ger Treffynnon.

Fe fydd ardaloedd gwledig yn y gogledd ddwyrain yn derbyn £6 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd mewn ymdrech i adfywio'r economi leol.

Mae'r broses wedi dechrau o chwilio am wirfoddolwyr i ddosbarthu'r arian yn rhannau gwledig siroedd Dinbych, Y Fflint a Wrecsam.

Fe fydd y gwirfoddolwyr yn helpu sefydlu grwpiau lleol i gydweithio gydag asiantaeth Cadwyn Clwyd, y corff sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun.

Dywedodd Lowri Owain, rheolwr Cadwyn Clwyd: "Y prif gymhwyster ar gyfer bod yn wirfoddolwr ydi bod â bys ar y pỳls o ran gwybod beth sy'n digwydd yn yr ardal."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol