Damwain traffordd: Perchennog yn euog
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y bachgen ddisgyn o ddrws argyfwng tra ar yr M49 yn ardal Bryste
Mae perchennog cwmni bysiau wedi ei gael yn euog o droseddau'n ymwneud â gyrru'n beryglus ar ôl i fachgen syrthio oddi ar fws i draffordd.
Roedd bws Keith Jones yn mynd a thîm rygbi ieuenctid o Dondu, ger Pen-y-bont ar Ogwr i Burnham-on-Sea ar 16 Mai, pan syrthiodd plentyn i'r M49 yn ardal Bryste.
Clywodd Llys y Goron fod y drws argyfwng ar y bws yn ddiffygiol, a bod y bachgen wedi pwyso arno.
Fe wnaeth y barnwr Malcolm Gibney rybuddio Jones, o Ben-y-bont ar Ogwr, ei bod yn bosib y bydd yn "ystyried cyfnod o garchar" pan fydd yn dedfrydu ar 25 Mehefin.
Ddydd Gwener, fe wnaeth llys benderfynu bod gyrrwr y bws, Tudor West, 63 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, yn euog o yrru'n beryglus.
Clywodd rheithgor bod darn o dâp yn dal rhai o baneli'r bws at ei gilydd.
Fe wnaeth y bachgen 13 oed, na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, dorri ei arddwrn yn y ddamwain.